Scott Williams
Mae disgwyl y bydd Scott Williams yn methu gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl anafu’i ysgwydd yn erbyn Iwerddon ar y penwythnos.

Cafodd yr anaf ar ôl rhoi tacl nerthol ar Brian O’Driscoll ond y Cymro ddaeth allan ohoni waethaf ac roedd rhaid iddo gael ei eilyddio yn hanner cyntaf y gêm.

Bydd y canolwr yn derbyn llawdriniaeth i’w ysgwydd ddydd Iau, gyda hyfforddwr y Scarlets yn dweud wrth y BBC ei fod yn disgwyl i Williams fod allan am “nifer o wythnosau”.

Yn ôl rhai adroddiadau gall Williams fethu hyd at dri mis o rygbi oherwydd yr anaf.

Trafferth yn y canol

Mae’r anaf yn cynyddu’r pryderon yng nghanol cae i hyfforddwr Cymru Warren Gatland, gyda Jonathan Davies dal ddim yn holliach o anaf i’w frest.

Bydd Cymru’n wynebu Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm wythnos i ddydd Sadwrn, ond gyda Davies ond wedi chwarae 40 munud o rygbi mewn tri mis mae amheuon a fydd yn ffit erbyn yr ornest yn erbyn Les Bleus.

Mae Ashley Beck eisoes wedi’i alw mewn i ymarfer gyda’r garfan ac mae’n cynnig opsiwn arall fel canolwr i Gatland.

Yr opsiynau eraill i bartneru Jamie Roberts ar hyn o bryd fyddai dewis James Hook, neu symud yr asgellwr George North i’r canol.