Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn galw am lunio deddf i reoli lefelau staffio ar gyfer nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae Kirsty Williams AC ynghyd a Chyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Tina Donnelly, yn credu y byddai’r ddeddf newydd – sy’n golygu y bydd nyrsys yn gofalu am lai o gleifion – yn “trawsnewid y gofal yn ysbytai Cymru”.

Fe fyddai’n gorfodi Llywodraeth Cymru i bennu lefel staffio gorfodol o nyrsys am bob claf.

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth Kirsty Williams ennill yr hawl i gyflwyno’i chynnig gerbron y Senedd ac fe fydd aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio’n llawn ar 5 Mawrth.

Os bydd pleidlais o blaid, Cymru fyddai’r wlad gyntaf ym Mhrydain i basio’r ddeddf.

‘Dim gorfodaeth’

“Does dim gorfodaeth ddeddfwriaethol ynglŷn â lefelau staffio mewn unrhyw ran o Brydain,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Er hyn, mae Kirsty Williams wedi ennill pleidlais yr aelodau sy’n golygu fod ganddi’r hawl i alw am ddeddfwriaeth ar y mater.

“Fe fydd trafodaeth ar y pwnc ac fe fydd pleidlais ar y mater gan y Cynulliad Cenedlaethol ar Fawrth 5.”