Jane Hutt
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £55 miliwn yn ychwanegol i Gyllideb Iechyd a Thai 2014, er mwyn gwarchod Gwasanaeth Iechyd Cymru, creu swyddi a rhoi hwb i’r economi.
Mae £570 miliwn wedi ei ddynodi i’r Gyllideb Iechyd yn barod, ac mae’r arian ychwanegol yn dod ar ôl newid mewn mesur, sy’n golygu y gall gweinidogion wneud newidiadau i gyllidebau i ymateb i’r gofyn.
Yn ôl y Llywodraeth, mae pwysau ariannol ar y byrddau iechyd ac fe fydd £50 miliwn yn cael ei roi i geisio lleddfu hynny. Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei gadw o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru yn hytrach na’i roi i Fyrddau Iechyd Lleol.
Mae’r £5 miliwn arall yn cael ei roi i Grant Tai Cymdeithasol, a fydd yn darparu rhwng 60-100 o dai fforddiadwy ledled Cymru. Bydd y cyllid ychwanegol hefyd yn creu neu’n cefnogi dros 100 o swyddi yn y maes.
‘Penderfynol’
“Mae’r arian ychwanegol yn dod yn un o’r cyfnodau mwyaf anodd ers datganoli,” meddai Jane Hutt.
“Fe fydd cyllideb Cymru yn 2015-16 10% yn llai mewn termau real nag yn 2010-11.”
“Er ein bod ni’n wynebu rhwystrau, rydym yn benderfynol o hybu’r economi a chreu swyddi, mynd i’r afael a thlodi a gwarchod y gwasanaeth iechyd.”