Y Maes Awyr - cae Airbus
Airbus 5 Aberystwyth 3
Y Drenewydd 2 Y Bala 0
Hwlffordd 2 Caerfyrddin 1
Mae Airbus wedi cynyddu’u mantais ar frig hanner isa’ Cynghrair Cymru gyda buddugoliaeth mewn Gem ryfeddol yn erbyn Aberystwyth.
Trwy’r hanner cynta’, fe bendiliodd y sgôr yn ôl ac ymlaen gyda’r Drenewydd yn mynd ar y blaen dair gwaith ac Aber yn dod yn gyfartal dair gwaith.
Yn y diwedd, dwy gôl yn y 12 munud ola’ a gipiodd y gêm i Airbus, gyda’r bumed gôl gan Rhys Nash yn dod ym munud ola’ amser llawn.
Roedd Ian Sheridan wedi cael dwy i Airbus, gydag un i Danny Desmoreux a gôl i’w rwyd ei hun gan Ricky Evans. Roedd yna ddwy i Lewis Codling i Aberystwyth hefyd ac un i Steff Edwards.
Yn is i lawr y tabl, fe dynhaodd pethau fwy fyth wrth i’r ddau dîm ar y gwaelod guro’r ddau dîm uwch eu pennau nhw.
- Roedd y Drenewydd wedi selio’u buddugoliaeth nhw tros y Bala yn yr hanner cynta’ gyda goliau gan Robbie Millintgon a Sam Bailey.
- Doedd gôl yn y funud ola’ gan Danny Sheehan ddim yn ddigon i achub Caerfyrddin wrth i Jack Christopher gael dwy i Hwlffordd. A’r cyfan yn dod yn yr hanner awr ola’.