Protest o blaid Gaddafi yn y brifddinas, Tripoli
Mae adroddiadau bod milwyr y Cyrnol Gaddafi yn ennill brwydr yn erbyn gwrthryfelwyr yn un o ddinasoedd mawr Libya.

Roedd yna ymladd caled ddoe a thros nos yn Zawiya sydd tua 30 milltir o’r brifddinas, Tripoli, lle’r oedd protest fawr o blaid yr Arlywydd.

Yn ôl adroddiadau gan asiantaethau newyddion, mae milwyr Gaddafi wedi bod yn ennill tir o amgylch cyrion y ddinas lle mae tua 200,000 o bobol yn byw.

Roedd mwg du uwchben rhannau ohoni ar ôl i filwyr yr Arlywydd danio gynnau mawr i’w chyfeiriad a’r gred yw bod y gwrthryfelwyr  wedi cilio fwy tua’r canol.