Cynlluniau ar gyfer carchar Wrecsam
“Ateb Saesnig i gwestiwn Saesnig” yw’r carchar anferth arfaethedig y mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu ei adeiladu yng Ngogledd Cymru, yn ôl academyddion ac ymgyrchwyr a fydd yn trafod y mater heddiw.

Maen nhw’n bryderus ynglŷn â chost ac effaith y carchar, fydd wedi’i leoli yn Wrecsam ac yn dal hyd at 2,000 o garcharorion.

Ac yn y digwyddiad yn y Cynulliad heddiw fe fydd yr ymgyrchwyr yn amlinellu eu gwrthwynebiad i’r cynllun – er bod cynghorwyr Wrecsam eisoes wedi cymeradwyo’r carchar.

Yn ôl y Llywodraeth fe fydd y prosiect yn hwb i economi Gogledd Cymru, gan greu 760 o swyddi a chynhyrchu £23m y flwyddyn.

Ond mae’r ymgyrchwyr wedi codi pryderon dros faint y cynllun, gan ddweud y byddai’n arwain at fwy o drais a defnydd cyffuriau, ac y byddai’n anoddach i reoli carcharorion.

Mae’r digwyddiad heddiw wedi’i drefnu ar y cyd rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Chynghrair Howard ar Ddiwygio Carchardai elusen sy’n gweithio tuag at ddiogelwch cymunedol a lleihau nifer y carcharorion.

Bydd siaradwyr y dydd yn cynnwys yr academydd Robert Jones, sydd wedi archwilio cynlluniau’r carchar yn fanwl; Elfyn Llwyd AS; Eoin MacLennan Murray, Llywydd y Gymdeithas Llywodraethwyr Carchar; ac Andrew Neilson, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd Cynghrair Howard.

Ddim yn ystyried Cymru

Yn ôl Andrew Neilson o Cynghrair Howard, dyw Llywodraeth San Steffan heb ystyried anghenion Cymru wrth fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau ar gyfer y carchar anferth.

“Dylai pobl yng Nghymru sylwi beth yw’r carchar anferth yn Wrecsam mewn gwirionedd: ateb Saesnig i broblem Saesnig,” meddai Andrew Neilson.

“Y Llywodraeth yn Llundain sydd yn cael trafferth gyda charchardai Lloegr yn gorlifo, nid llywodraeth Caerdydd. O ganlyniad i hyn pobl o Loegr, nid Cymru, fydd y rhan fwyaf o’r rhai yn y carchar anferth.

“Mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod carchardai mawr yn ei chael hi’n anoddach i reoli carcharorion, gyda thrais a chymryd cyffuriau’n fwy cyffredin a chyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant wedi’u cwtogi.

“Ond dyna’n union mae Llywodraeth San Steffan yn ei argymell ar gyfer Gogledd Cymru.

“Dylai datganoli fod ynglŷn â chael atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Nid creu’r carchar mwyaf ym Mhrydain, ac un o’r mwyaf yn Ewrop, yn Wrecsam yw’r ateb.”

Wrth siarad am y cynllun yn gynharach dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones nad oedd gan y Llywodraeth “unrhyw amheuaeth” y byddai’r carchar yn Wrecsam yn hwb i’r ardal.

“Bydd yn creu hyd at 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb o £23m yn flynyddol i’r economi, gan gynnig miliynau o bunnau o gyfleodd adeiladu a phosibiliadau i fusnesau lleol,” meddai David Jones.