Llys y Goron Abertawe
Mae’r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad yn Ninbych-y-pysgod y llynedd wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Cafodd Joanna Elizabeth Hall, 35, o Ddinbych y Pysgod, ei thrywanu 40 o weithiau ar ôl ymosodiad yn ei fflat ym mis Mawrth 2013. Bu farw yn yr ysbyty 19 diwrnod yn ddiweddarach.

Mae ei chariad Steven Daniel Williams, 30, o Heol Marsh, Dinbych y Pysgod yn gwadu cyhuddiad o’i llofruddio.

Mae Llys y Goron Abertawe eisoes wedi clywed bod Joanna Hall wedi dweud wrth ei chwaer a’r heddlu mai Steven Williams oedd wedi ymosod arni.

Mae o’n honni ei fod wedi mynd allan i brynu sigaréts a photel wisgi a’i fod wedi dychwelyd i’r fflat a dod o hyd i Joanna’n gwaedu ar y llawr, gan ddweud y gallai rhywun fod wedi ymosod arni tra’r oedd o wedi mynd allan.