Mae dyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd bore dydd Mawrth.

Cafodd Andrew Evans, 27, ei arestio yn fuan wedi’r digwyddiad yn Heol Colum, Caerdydd am 7.03y bore ddoe.  Cafodd heddlu arfog eu galw i’r safle er mwyn diogelu’r cyhoedd.

Mae Evans wedi ei gyhuddo o ymosod, ac ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol. Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 24 Chwefror.