Mae cynghorydd ifanc o Wynedd wedi datgan pryder am gêm yfed newydd sy’n trendio ar y we.
Mae Sion Jones yn 22 mlwydd oed ac yn gynghorydd sir dros ward Bethel ar Gyngor Gwynedd. Mae o’n pryderu am effeithiau hir dymor y gêm ar ieuenctid y wlad – “nid yn unig fel cynghorydd, ond fel person ifanc hefyd,” meddai.
Y cefndir
Mae NekNominations yn gêm ble mae pobl ifanc yn ffilmio’i hunain yn yfed diod, alcohol fel arfer, mewn un ac yna’n postio’r fideo ar wefan rhyngweithio Facebook cyn enwebu ffrindiau i wneud yr un peth a’u herio i fynd un yn well.
Mae’n debyg bod y gêm wedi tarddu o Awstralia ond mae hi’n dod yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru hefyd.
Dywedodd Sion Jones wrth Golwg360 ei fod yn mwynhau mynd allan gyda ffrindiau ond ei fod yn pryderu am ei gyfoedion sydd efallai ddim yn sylweddoli beth yw effeithiau hir dymor gor-yfed.
‘Perygl i rywun farw’
Meddai Sion Jones: “Mae’n bryder mawr i mi weld pobl ifanc yr un oed â mi yn chwarae’r gêm newydd.
“Dwi yn ymwybodol bod y gêm beryglus hon yn cael ei chwarae gan bobl ifanc yr ardal ac ar hyd a lled Cymru, ac er fy mod i’n bersonol yn mwynhau mynd allan ag yfed, fel rhan fwyaf o bobl ifanc fy oed i, dwi’n galw ar bobl ifanc i atal chwarae’r gêm beryglus hon cyn bydd marwolaeth.”
Mae’r gêm eisoes wedi cael sylw yn y wasg wedi i Jonny Byrne, dyn 19 mlwydd oed o Ogledd Iwerddon, farw ar ôl neidio mewn i afon yn dilyn chwarae’r gêm ddydd Sadwrn.
Mae brawd Jonny Byrne wedi awgrymu bod NekNomination yn prysur droi yn fath newydd o fwlio ar y we oherwydd bod pwysau ar bobl ifanc i efelychu eu cyfoedion.
Ychwanegodd Sion Jones ei fod yn credu bod hi’n amser i’r Llywodraeth wneud mwy i rybuddio pobl ifanc am beryglon alcohol ond yn y cyfamser, ei fod yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn gwrando ar rywun sy’n nes at eu hoedran nhw.
Meddai: “Dwi’n mawr obeithio bydd pobl ifanc yn gwrando ar berson sydd efallai’r un oed. Dwi’n pryderu yn fawr iawn y bydd y gêm hon yn datblygu yn rhywbeth na ellir ei rheoli.”
‘Pwysau mawr’
Meddai llefarydd ar ran Alcohol Concern Cymru bod gemau fel hyn yn gallu bod yn “broblem ddifrifol”.
Dywedodd y llefarydd: “Mae wastad angen bod yn ofalus gyda gemau yfed. Mae pwysau mawr ar y rhai sy’n cymryd rhan i yfed cymaint â phawb arall, neu fwy. Mae yna berygl arbennig wrth chwarae’r fath gemau ar y we, gan nad oes gyda nhw syniad yn y byd faint mae’r chwaraewyr eraill yn ei yfed.
“Mae gemau yma’n broblem ddifrifol, yn enwedig ar ôl y digwyddiad trist tu hwnt clywsom ni amdano yng Ngogledd Iwerddon. Ond mae’n rhaid i ni gofio nad yw’r fath gemau wedi ymddangos mewn gwagle. Mae pwysau i yfed alcohol, ac weithiau i or-yfed, yn eithaf cyffredin yn ein cymdeithas, fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi trio mynd i barti a pheidio â diota.”
=