Nigel Jenkins
Bydd y bardd o Benrhyn
Gŵyr, Nigel Jenkins, yn cael ei gladdu yn y bedd teuluol ym mynwent yr eglwys ym Mhennard yn hytrach nag mewn bedd yn y fynwent gyhoeddus gerllaw yn ôl ei ddymuniad.

Roedd Cyngor Cymuned Pennard wedi gwrthod caniatad iddo gael ei gladdu yn y fynwent gyhoeddus am mai polisi’r cyngor ydi caniatau claddu trigolion ardal y cyngor yn unig yno.

Bu farw Mr Jenkins yn ei gartref yn y Mwmbwls, dydd Mawrth diwethaf yn 64 oed.

Roedd nifer o’i gyfeillion a’i gyd-weithwyr wedi rhoi ymdrech munud olaf ar y gweill ar gais y teulu er mwyn ceisio cael y cynghorwyr i ail-feddwl ond mae’r cyngor wedi gwrthod gwneud hynny.

Cafodd Nigel Jenkins ei fagu ym Mhennard a’i dad werthodd tir y fynwent i’r hen Gyngor Plwyf oedd mewn awdurdod cyn y cyngor cymuned presennol.

Datganiad

Mewn datganiad anfonwyd at golwg360 mae’r cyngor yn nodi bod y polisi yma yn ei le ers blynyddoedd a gan fod gan y cyngor ddyletswydd i drin pawb yr un fath, yna doedd dim dewis ond gwrthod cais y teulu.

Mae’r datganiad yn nodi hefyd bod y cyngor wedi gwrthod ceisiadau teuluoedd eraill yn y gorffennol ac mai penderfyniad mwyafrif y cynghorwyr oedd peidio caniatau eithriad yn achos Mr Jenkins.

Mae’r cyngor yn cydnabod cyfraniad Nigel Jenkins fel bardd byd-enwog gan ychwanegu eu bod yn ymddiheuro yn ddiffuant am unrhyw loes a gofid achoswyd gan y polisi.

Siom

Mae teulu a chyfeillion Nigel Jenkins yn siomedig nad yw am gael ei gladdu yn yr union fan ble roedd yn dymuno.

Dywedodd Menna Elfyn fod Nigel Jenkins “yn un o etifeddion mwyaf Gŵyr” a’i bod yn drist nad ydi’n cael ei ddymuniad olaf.

Ychwanegodd yr hanesydd a’r awdur Peter Stead ei fod yn credu “y buasai dyn radical oedd wastad ar y cyrion fel Nigel ddim yn cael ei siomi bod ffrae fiwrocrataidd yn cael ei achosi gan ei farwolaeth.”

Bydd yr angladd “tawel” yn cael ei gynnal ym Mhennard dydd Llun 10 Chwefror.