Nigel Jenkins
Mae Cyngor Cymuned Pennard ar Benrhyn Gŵyr wedi gwrthod caniatau dymuniad olaf y bardd Nigel Jenkins i gael ei gladdu efo’i deulu ar dir Eglwys y Santes Fair yno.
Mae’r cynghorwyr wedi gwrthod am nad oedd yn byw yn yr ardal pan fu farw yn ei gartref yn y Mwmbwls, dydd Mawrth diwethaf yn 64 oed.
Mae nifer o’i gyfeillion a’i gyd-weithwyr wedi rhoi ymdrech munud olaf ar y gweill ar gais y teulu er mwyn ceisio cael y cynghorwyr i ail-feddwl gan fod yr angladd i fod i gael ei gynnal yfory (dydd Llun).
Siom
Mae’r awdur a’r golygydd Menna Baines yn un o’r rhai sydd wedi eu siomi gan benderfyniad y cyngor.
“Mae ei deulu a’i gyfeillion wedi’u tristau a’u siomi’n fawr gan y penderfyniad ac ar eu hanogaeth mae yna ymdrech munud olaf ar droed i geisio cael y cyngor i newid eu meddyliau.
“Fel un o feibion Pennard a hefyd fel ffigwr o statws cenedlaethol yn y byd llenyddol Cymreig, mae yna deimlad cryf ymhlith ei gyfeillion niferus y dylid parchu ei ddymuniad ac y dylai gael ei roi i orffwys yn ei hen gynefin, mewn llain o dir ble mae eraill o aelodau’r teulu wedi’u claddu a hynny ar dir a fu gynt, fel mae’n digwydd, yn eiddo i’r teulu ei hun.”
Cyfarfod neithiwr
Cafodd Nigel Jenkins ei fagu ym Mhennard a’i dad werthodd tir y fynwent i’r hen Gyngor Plwyf oedd mewn awurdod cyn y cyngor cymuned presennol.
Mae yna 13 aelod ar Gyngor Gymuned Pennard ac roedd y cadeirydd Arthur Rogers yn ffyddiog yn wreiddiol y buasai Mr Jenkins yn cael ei ddymuniad.
Mae golwg360 bellach wedi cael ar ddeall bod y cyngor wedi pleidleisio yn erbyn hynny mewn cyfarfod neithiwr.
Yr ydym wedi ceisio cysylltu efo’r cadeirydd, y clerc ac aelodau eraill ond does neb wedi cysylltu yn ôl hyd yn hyn.