Mae’r corff casglu breindal Eos wedi denu aelodau newydd ers i dribwnlys hawlfraint ddyfarnu £100,000 y flwyddyn iddyn nhw o goffrau’r BBC, ac mae’n bosib y bydd cerddorion o wledydd Celtaidd eraill am ddod yn rhan o’r fenter hefyd.
Er bod siom enbyd ymysg yr aelodau mae dim ond £100,000 y flwyddyn sydd i ddod i’r coffrau, mae un o geffylau blaen Eos yn pwysleisio fod “egwyddorion pwysig iawn” wedi eu sefydlu gan y tribwnlys a allai arwain at gerddorion a chyfansoddwyr o wledydd eraill yn ymuno.
“Mae’r tribwnlys wedi dyfarnu bod yna werth ychwanegol i gerddoriaeth Gymraeg ar Radio Cymru ac i’r BBC,” meddai Dafydd Roberts.
“Bod yna werth i’r ffaith bod y gerddoriaeth mewn un o’r ieithoedd lleiafrifol brodorol, a bod gwrth ychwanegol i hynny.
“Ac mae hynny’n bellgyrhaeddol, achos mae’n bosib iawn rŵan bod y rhai sy’n cyfansoddi yn Gaeleg yn Yr Alban a Gaeleg Gogledd Iwerddon, a Manaweg a Chernyweg hefyd, yn medru mynd am yr un peth.”
Mi fedrai’r cerddorion hyn fynd ati i sefydlu cyrff casglu eu hunain “neu mi fedran nhw ymuno efo Eos” meddai Dafydd Roberts.
“Mae’r corff casglu [Eos] wedi ei sefydlu rŵan, ac mae hynny’n gam mawr ynddo’i hun.
“Mae o’n gorff sy’n gweithredu’n annibynnol – tydi hynny erioed wedi digwydd o’r blaen ym Mhrydain. Am y tro cyntaf erioed mae’r BBC yn talu blanket fee i ddau gorff [sef y PRS ac Eos].
“Felly mae’r egwyddor wedi ei sefydlu gan y tribwnlys, bod yna werth ychwanegol i gerddoriaeth lleiafrifol gynhenid i rai gorsafoedd, ac felly mae modd edrych ar yr egwyddor yna mewn rhannau eraill o Brydain.”
Mae Eos wedi bod mewn cyswllt gyda cherddorion o’r gwledydd Celtaidd eraill, ac “mae yna garfan go gryf yng Ngogledd Iwerddon…a nifer o gerddorion gwerinol yn Yr Alban sydd hefyd yn teimlo bod nhw ddim yn cael eu haeddiant ar y gorsafoedd Gaeleg.”
Mwy yng nghylchgrawn Golwg