Eirian Llwyd wrth ei gwaith (llun: northwalesextra.com)
Mae’r arlunydd a’r genedlaetholwraig Eirian Llwyd wedi marw yn yr ysbyty yn 63 oed, wedi salwch byr.

Roedd hi’n wraig i gyn arweinydd Plaid Cymru a’r cyn Aelod Cynulliad Ieuan Wyn Jones, yn fam i dri o blant – Gerallt, Gwenllian ac Owain – ac yn nain i chwech o wyrion ac wyresau.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad ei bod wedi rhoi “oes o gariad i’w ffrindiau a’i theulu, ac oes o wasanaeth i’w chenedl a’i chyd-ddyn.”

Gyrfa

Yn wreiddiol o Brion ger Dinbych, bu’n gweithio i hybu lle merched mewn gwleidyddiaeth yn yr 80au, gan a sicrhau lle amlycach i ferched ym mhrif bwyllgorau Plaid Cymru. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu Cangen y Rhyl o Gymorth i Fenywod yn y 1970au a 1980au.

Ond, ar ôl newid gyrfa, fe sefydlodd gwmni Y Lle Print Gwreiddiol a fu’n dod a phrintiau gwreiddiol nifer o artistiaid blaenllaw Cymru i sylw cynulleidfa ehangach.

“Mewn sawl ffordd yr oedd Eirian yn arloeswraig, yn ymgyrchydd o argyhoeddiad a chanddi weledigaeth glir o’r hyn yr oedd angen ei wneud ym mha bynnag faes y gweithiai ynddo. I lawer o’i chyfoedion a chydweithwyr yr oedd yn ysbrydoliaeth” meddai ei theulu.

“Roedd gan Eirian ffydd gref, ac yn ystod ei salwch, fe ddangosodd gadernid anghyffredin, ac wynebu’r cyfan gyda gras ac urddas.

“Daethom i’w hadnabod yn well a bu’n fraint i’w theulu a chyfeillion agos fod yn ei chwmni. Rydym yn well pobl o’r herwydd.”

Teyrngedau

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi talu teyrnged iddi gan ddweud ei bod yn “genedlaetholwraig i’r carn” a oedd “yn ymfalchïo wrth weld gymaint yr oedd y Blaid wedi ei gyflawni yn ystod y degawdau diwethaf, yn enwedig wrth ddod yn rhan o lywodraeth Cymru.

“Estynnwn ein cydymdeimlad i deulu sydd wedi colli gwraig, mam a nain annwyl iawn.”

Ac mae Dafydd Trystan, Cadeirydd Plaid Cymru, wedi dweud: “Trist iawn clywed am farwolaeth yr hyfryd, deallus, egwyddorol ac ysbrydoledig Eirian Llwyd. Cydymdeimladau dwys i Ieuan a’r teulu oll”