Yn ôl cwmni betio Paddy Power mae Cymru yn ffefrynnau 9/4 i fod y tîm cyntaf i ennill tri Pencampwriaeth yn olynol yn y Chwe Gwlad, a chreu hanes.

Maen nhw’n ffefrynnau i ddal eu gafael yn y Bencampwriaeth, sy’n cychwyn gyda gêm gartref yn erbyn Yr Eidal yfory.

Wedi cwrdd â’r Eidal 20 gwaith, mae Cymru wedi ennill 17 gêm, colli dwy gêm a chael un gêm gyfartal, felly mae hanes o blaid y crysau cochion.  Nid yw Cymru wedi colli i’r Eidalwyr mewn chwe gêm, ac wedi ennill chwe gêm allan o saith ar faes Stadiwm y Mileniwm.

Alex Cuthbert yw’r ffefryn i dirio’r cais cyntaf yfory.