Mae’r Ymgyrch Dros Gwrw Go-iawn wedi herio’r syniad ffasiynol bod ‘Ionawr Sych’ – sef rhoi’r gorau i yfed alcohol am fis cynta’r flwyddyn wedi gloddesta’r Dolig – yn llesol i gorff ac enaid.

Yn ôl CAMRA (Campaign for Real Ale) mae’n well mwynhau llif cymhedrol cyson o alcohol gydol y flwyddyn, yn hytrach na rhoi’r gorau iddi am fis ac yna dychwelyd at yfed yn drwm.

Ac mae CAMRA’n cyfeirio at waith ymchwil academydd o Brifysgol California sy’ wedi sgwennu’r llyfr Beer, Health and Nutrition, i brofi eu pwynt.

“Mae pawb yn gwybod fod yfed gormod yn medru achosi problemau iechyd difrifol,” meddai Charles Bamforth.

“Ond beth nad ydy rhyw lawer o bobol yn sylweddoli yw bod yfed yn gymhedrol yn llesol, a bod yfwyr cymhedrol yn byw yn hirach na’r rhai hynny sydd ddim yn yfed. Mae yfed alcohol yn gymhedrol yn dda i’r galon a chylchrediad gwaed.

“Yr hyn sy’n allweddol yw yfed ychydig yn aml. Rydych yn gwneud camgymeriad mawr os ydych yn meddwl bod mynd am fis heb alcohol am eich gwarchod rhag effeithiau yfed yn drwm weddill y flwyddyn.”