Iwan Llwyd yn 1995
Mae S4C am ddangos rhaglen yn dadansoddi bywyd a gwaith y Prifardd Iwan Llwyd, a fu farw yn 2010. Roedd yn 52 oed.

Y cynhyrchydd teledu o Fôn Michael Bailey Hughes sy’n gyfrifol am y rhaglen awr o hyd fydd yn adrodd hanes un o feirdd mwya’ disglair ei genhedlaeth.

Bydd cyfle i weld cyfweliadau gyda brawd y bardd, yr actor Llion Williams, ei gyfaill y Prifardd Myrddin ap Dafydd a’r artist Iwan Bala a fu’n cydweithio gydag Iwan Llwyd.

Hefyd bydd Hywel Bebb, athro Cymraeg y prifardd yn ystod ei ddyddiau ysgol, yn egluro sut y daeth yr Iwan Llwyd ifanc dan ddylanwad T.H. Parry-Williams.

Rhagfynegi ei farwolaeth

Bydd Iwan Llwyd: ‘Rhwng gwên nos Sadwrn a gwg y Sul’ yn cael ei dangos gyntaf yn un o nosweithiau ‘4 a 6’ yng Nghlwb Canol Dref Caernarfon ar Chwefror 27, ac yna ar S4C yn wythnos gyntaf mis Mawrth.

Yn ystod y rhaglen bydd un o gyfeillion Iwan Llwyd yn datgelu ei fod wedi rhagweld ei farwolaeth mewn cerdd.

“Mae Geraint Lovgreen yn y rhaglen, oedd yr un wnaeth ddarganfod y corff, ac mae o’n disgrifio sur yr oedd Iwan, mewn ffordd, wedi rhagfynegi ei farwolaeth mewn cerdd yr oedd o wedi roi i Lovgreen,” meddai Michael Bailey Hughes.