Francois Hollande
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn ceisio perswadio Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, i gefnogi diwygiadau yn yr Undeb Ewropeaidd, gan alw am berthynas well rhwng Prydain a Brwsel.

Fe fydd y ddau arweinydd yn cyfarfod mewn cynhadledd yn Sir Rhydychen heddiw, i drafod Ewrop a phynciau fel ynni, diogelwch a gwyddoniaeth.

Amser cinio, mae’n debygol y bydd David Cameron yn dweud wrth Francois Hollande fod angen dod o hyd i ffyrdd i wneud yr Undeb Ewropeaidd yn “fwy hyblyg”, a bod angen gwella’r erthynas rhwng Brwsel a gwledydd sydd heb fod yn defnyddio’r ewro.

Ond, mae ffynhonnell agos i Francois Hollande, wedi dweud ei bod hi’n “annhebygol iawn” y bydd yn cytuno gyda syniadau David Cameron.

Refferendwm

Mae Llywodraeth David Cameron wedi dweud y byddan nhw’n cynnal refferendwm ynglŷn ag aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2017, os bydd y blaid yn ennill yr etholiad yn 2015.

Os caiff ei basio, fe fyddai’r mesur yn ymrwymo’r Llywodraeth i gynnal refferendwm yn gofyn i bobol y Deyrnas Unedig a ydyn nhw am aros yr Undeb Ewropeaidd.

Ond, cyn hynny, mae David Cameron wedi dweud y bydd yn ceisio trafod amodau aelodaeth gwledydd Prydain.