Neuadd Sir Gaerfyrddin

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw mewn trafodaethau gyda Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn ag adroddiadau o dorcyfraith mewn dau gyngor sir.

Fe benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru fod Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Benfro wedi torri’r gyfraith tros becyn cyflog a phensiwn i’w prif weithredwyr.

Ac mae’r heddlu bellach yn ystyried y camau nesaf gyda’r Archwilwyr – er eu bod nhw wedi pwysleisio nad yw’r mater wedi cael ei gyfeirio’n swyddogol atyn nhw eto.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys: “Gall Heddlu Dyfed Powys gadarnhau ein bod yn ymwybodol o’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac er nad yw’r mater wedi cael ei gyfeirio atom ni, rydym mewn trafodaethau gyda’r Archwilwyr ac fe fyddwn yn gwneud asesiad mewn perthynas ag unrhyw gamau pellach gan yr Heddlu.”

Cyngor Sir Benfro’n ymateb

Mewn datganiad byr fe ddywedodd Cyngor Sir Benfro eu bod dal wrthi’n ystyried adroddiad yr Archwilwyr.

“Mae’r Awdurdod yn cadarnhau derbyn adroddiad yr Archwiliwr fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor ymhen amser,” meddai’r datganiad.

Aeth y Cynghorydd Rob Lewis, Dirprwy Arweinydd yr Awdurdod, ymlaen i ddweud: “Mae’r adroddiad yma’n delio gyda nifer o faterion cymhleth.

“Tra mod i’n nodi sylwadau’r Archwiliwr mewn perthynas â’r penderfyniad a gymerwyd, rwy’n falch ei fod wedi dod i’r casgliad y gall y Cyngor gymryd penderfyniad cyfreithiol unwaith y bydd nifer o faterion trefniadol wedi cael eu datrys.”

“Gweithredu’n anghyfreithlon”

Yn ôl y Swyddfa Archwilio mae’r ddau gyngor wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy roi arian parod i brif swyddogion yn hytrach na thalu i mewn i’w potiau pensiwn.

Roedd hynny’n caniatáu i’r ddau optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac yn eu digolledu am daliadau treth posib.

Yn ôl yr archwilydd, does gan gynghorau ddim hawl i wneud y fath daliadau o dan yr amodau ar y pryd.

Roedd £27,000 wedi ei dalu fel hyn i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, a mwy na £51,000 i Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, ac un swyddog arall.

Mae’r cynghorau eisoes wedi cael eu beirniadu gan nifer o Aelodau Cynulliad yn dilyn yr adroddiad.

Manylion y ddau achos

Cyngor Sir Benfro

Oherwydd y cynllun, amcangyfrif y bydd cyfanswm o £51,011 wedi cael ei dalu i Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro ac un swyddog arall, erbyn diwedd Mawrth 2014.

Honnir bod y cyngor wedi “gweithredu’n anghyfreithlon ac mae angen diddymu ei benderfyniad ynghylch pensiynau ac atal unrhyw daliadau pellach i uwch swyddogion”.

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â’r taliadau anghyfreithlon, mae’r archwilydd wedi amau proses y cyngor wrth wneud y penderfyniad.

Doedd y mater ddim wedi ei roi yn iawn ar yr agenda, meddai’r adroddiad, a doedd dim posib i aelodau’r cyhoedd ei archwilio.

Ar ben hynny, roedd yr adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol wedi ei lunio gan uwch-swyddog a oedd yn gymwys i elwa o’r trefniant.

Er bod y cyngor yno wedi atal y taliadau erbyn hyn, yr amcangyfri bod dros £27,000 wedi cael ei dalu i’r Prif Weithredwr ers 2012.