Mae’r gwasanaethau brys wedi achub tri cherbyd ar ôl i afon orlifo ym Mhowys y bore ma.

Cafodd gwasanaeth tân De a Chanolbarth Cymru eu galw am tua 6:51 yb ar ôl i geir gael eu hamgylchynu gan ddŵr, ger Pont Llandrinio. Ni chafodd neb eu hanafu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud fod lefel y dŵr wedi codi i 6.6 metr yn Llandrinio a’i fod yn dal i godi. Y lefel arferol yw rhwng 1.22 a 5.14m.

Mae’r A490 wedi cau i’r ddau gyfeiriad oherwydd y llifogydd.

Mae dau rybudd melyn a saith rhybudd llifogydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd.