Aamir Siddiqi
Mae dau ddyn a lofruddiodd y myfyriwr o Gaerdydd, Aamir Siddiqi, ar gam wedi lansio apêl yn erbyn eu dedfrydau.

Cafwyd Ben Hope, 40, a Jason Richards, 39, yn euog o ladd Aamir Siddiqi a’u carcharu am oes. Dyfarnodd y barnwr y dylai’r ddau dreulio isafswm o 40 mlynedd dan glo.

Cafodd , Aamir Siddiqi, 17 oed, ei drywanu i farwolaeth ar ei stepen drws – cafodd ei rieni hefyd eu hanafu yn yr ymosodiad.

Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod y ddau wedi cael eu talu £1,000 i ladd dyn arall oherwydd ei fod mewn dyled. Ond ar y diwrnod hwnnw, roedd y ddau, oedd wedi bod yn cymryd cyffuriau, wedi mynd i’r tŷ anghywir yn y Rhath, Caerdydd gan ladd  Aamir Siddiqi ar gam o flaen ei rieni.

Mae Hope a Richards bellach wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn eu dedfryd.

Fe fydd yr apêl yn cael ei chlywed yn y Llys Apêl yn Llys y Goron Caerdydd ar 12 Chwefror. Mae Richards hefyd wedi gwneud ail gais i apelio yn erbyn ei ddyfarniad. Roedd apêl flaenorol wedi cael ei gwrthod.