Mae gwrandawiad wedi clywed sut y bu i brifathrawes o Gaerdydd fwlio a chodi ofn ar ddisgyblion, athrawon a rhieni yn ystod ei chyfnod fel pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig St Alban yn y Rhath.

Rhwng Medi 2003 a 2012, mae Jane Morag Vaterlaws yn cael ei chyhuddo o ymddygiad proffesiynol annerbyniol ac anallu proffesiynol difrifol, ar ôl sawl cwyn yn ei herbyn.

Ymysg y cwynion, mae honiadau ei bod wedi cyhuddo plentyn 6 oed ar gam o dynnu llun anweddus, cyn bygwth cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol.

Honiad arall yw ei bod wedi rhoi gwybodaeth i dad dau ddisgybl, er ei fod wedi ei wahardd rhag unrhyw gyswllt a’r plant.

Yn ogystal, mae hi’n cael ei chyhuddo o fethu ag ymdopi â chyfrifoldebau ariannol yn yr ysgol.

Gwadu

Nid oedd Jane Vaterlaws yn bresennol yng ngwrandawiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yng Nghaerdydd heddiw ac mae hi’n gwadu’r 24 cyhuddiad yn ei herbyn.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad barhau am dri diwrnod.