Ysbyty Llwynhelyg (Llun:Geograph-280886-gan-Ceridwen)
Mae tua mil o bobl wedi bod yn gorymdeithio ar hyd strydoedd Hwlffordd i ddangos eu gwrthwynebiad i gau uned gofal arbenigol i fabanod yn Ysbyty Llwyn Helyg yn y dref.

Cafodd cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i symud yr uned i Ysbyty Glan Gwili, Caerfyrddin, eu cadarnhau gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yr wythnos ddiwethaf.

Dadl y protestwyr yw y gallai hyn beryglu bywydau gan y gallai’r daith o Sir Benfro fod yn rhy hir mewn rhai achosion.

Ddechrau’r wythnos, dywedodd mam leol a gollodd ei baban y llynedd y byddai hithau hefyd wedi marw pe na bai hi wedi cael y driniaeth mewn pryd yn Ysbyty Llwyn Helyg.