Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Fe allai annibyniaeth i’r Alban arwain at gyfleoedd a manteision i Gymru a gogledd Lloegr yn ogystal ag i’r Alban, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

“Y tueddiad dros y genhedlaeth ddiwethaf yw wrth i’r Alban gael mwy o bwerau mae Cymru wedi dilyn ar ei hôl,” meddai, wrth siarad ar raglen Sky News. “Mae felly wedi bod yn beth da i rannau eraill o’r wlad.

“Dyna pam fod llawer o bobl yng Nghymru’n annog yr Alban ymlaen.”

Dywedodd hefyd fod pobl yng ngogledd Lloegr ag agweddau tebyg.

“Maen nhw’n gweld symud canolbwynt grym tua’r gogledd fel rhywbeth allai fod o fudd ac a fyddai’n gwrthbwyso tynfa Llundain, sy’n cael cymaint o ddylanwad. Mewn llawer ffordd mae’n difrodi economi rhanbarthau Lloegr yn fwy hyd yn oed nag mae’n difrodi economi’r Alban.”

Arolygon barn

Daw sylwadau Alex Salmond wrth i un arolwg barn ddangos cynnydd sylweddol yn y gyfran o bobl sy’n bwriadu pleidleisio o blaid annibyniaeth i’r Alban ym mis Medi.

Yn ôl yr arolwg yn y papur newydd Scotland on Sunday, mae’r gefnogaeth i annibyniaeth wedi tyfu o 32% i 37% dros y pedwar mis diwethaf.

Dros yr un cyfnod, mae’r gyfran sy’n bwriadu pleidleisio Na wedi syrthio o 49% i 44%.

O ddiystyru’r rhai nad ydyn nhw wedi penderfynu eto, roedd 46% yn bwriadu pleidleisio o blaid annibyniaeth yn y refferendwm ar 18 Medi, o gymharu â 54% yn erbyn.

Mae arolwg arall, fodd bynnag, â newyddion llai calonogol i Alex Salmond.

Yn hytrach nag gofyn sut oedd pobl am bleidleisio, gofynnodd arolwg YouGov ar ran Sky News i 840 o Albanwyr sut bydden nhw’n teimlo pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Dangosodd yr arolwg y byddai 46% “yn gresynu’n fawr”, 25% “wrth eu boddau”, 17% “ddim gwahaniaeth ganddyn nhw” a 11% “ddim yn gwybod”.

Gofynnwyd yr un cwestiwn i 1,695 o bobl yng Nghymru a Lloegr hefyd, a’r atebion oedd: 46% “dim gwahaniaeth ganddyn nhw”, 34% “yn gresynu’n fawr”, 11% “wrth eu boddau” a 9% “ddim yn gwybod”.