Mae cynlluniau Canghellor yr Wrthblaid Ed Balls i godi cyfradd uchaf treth incwm i 50c yn y bunt wedi derbyn ymateb cymysg.

Roedd wedi cyhoeddi ddoe y byddai llywodraeth Lafur yn codi cyfradd treth incwm ar enillion dros £150,000 y flwyddyn i 50c yn y bunt.

Mae arolwg barn ym mhapur newydd The Mail on Sunday yn dangos chwech o bob deg yn cefnogi bwriad o’r fath, a 40% yn anghytuno y byddai’n achosi i bobl gyfoethog adael Prydain.

Ond rhybuddiodd arweinwyr busnes y byddai’r cyhoeddiad yn “gwneud difrod sylweddol i hygrededd Llafur” a dywedodd cyn-weinidog Llafur dros y Ddinas, yr Arglwydd Myners, na fyddai’r cynlluniau’n llwyddo arholiad TGAU hyd yn oed.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor fod cynlluniau Ed Balls yn creu’r argraff anghywir o Brydain.

“Fel Ysgrifennydd Tramor, dw i’n gweld gweddill y byd yn gweld Prydain gyda diweithdra’n gostwng, chwyddiant isel, hyder economaidd yn dychwelyd a chynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth yn gweithio,” meddai.

“Mae Ed Balls yn anfon yr arwydd y bydden ni’n mynd yn ôl at drethi uchel, benthyca uchel, gwario uchel pe bai llywodraeth Lafur – ac agenda gwrth-fusnes, gwrth-greu swyddi yw hynny.”