Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Mae’r Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o dderbyn ffoaduriaid o Syria, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor William Hague.
Dywedodd fod yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn paŵratoi cynlluniau ac y bydd gan y Llywodraeth gyhoeddiad ar y mater yn ystod y dyddiau nesaf.
Dywedodd hefyd fod y Prif Weinidog David Cameron wedi ‘agor y drws’ i dderbyn y ffoaduriaid mwyaf anghennus i Brydain.
Mae’r Llywodraeth wedi bod o dan bwysau gan y blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol i chwarae rhan mewn cynllun gan y Cenhedloedd Unedig i dderbyn ffoaduriaid, ac mae’n debygol y bydd pleidlais yn y Senedd ar y mater ddydd Mawrth.
“Dw i’n credu bod dadl dros helpu pobl sy’n neilltuol o anghennus,” meddai William Hague.
“Hoffwn bwysleisio er hynny mai ein prif ymdrech i helpu pobl fydd parhau â’n gwaith draw yno.
“Mae cymorth o Brydain yn helpu miliwn o bobl gyda dŵr yfed bob dydd, ac allwch chi ond gwneud hynny yn y fan a’r lle.”