Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru (llun o wefan Plaid Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn debygol o sefyll am sedd ranbarthol yn ogystal ag yn etholaeth y Rhondda os bydd ganddi hawl i wneud hynny yn etholiad nesa’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, does gan ymgeiswyr i’r Cynulliad ddim hawl i sefyll mewn etholaeth ac fel aelod rhanbarthol, ond bwriad  llywodraeth San Steffan yw codi’r gwaharddiad hwn cyn yr etholiad nesaf.

Y llynedd, cyhoeddodd Leanne Wood y byddai’n sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth y Rhondda, a gafodd ei hennill gan Leighton Andrews dros y Blaid Lafur gyda dros 60% o’r bleidlais yn 2011.

Ar raglen y Politics Show ar BBC1 heddiw, fodd bynnag, dywedodd arweinydd Plaid Cymru y byddai’n sefyll ar y rhestr rhanbarthol yn ogystal os gall wneud hynny.

“Roedd y sefyllfa’n gwbl wahanol pan benderfynais sefyll dros y Rhondda,” meddai. “A hyd yn oed os byddaf yn cael sefyll dros ranbarth yn ogystal, fe fyddaf i’n dal i sefyll dros y Rhondda.”