William Powell, AC
Fe ddaeth i’r amlwg fod un o Aelodau Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael rhybudd ysgrifenedig am ei ymddygiad yn 2011.
Yn dilyn ymchwiliad mewnol roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dyfarnu bod William Powell, Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ferch ifanc.
Yn ôl y ferch, sydd bellach yn 21 oed ac yn dymuno aros yn ddienw, roedd wedi rhoi’r ddiod feddwol absinthe iddi hi a dwy ferch ifanc arall ac wedi ei chyffwrdd ei choesau a gafael amdani am ei chanol.
Er na wnaeth hi gyflwyno cwyn swyddogol, cafodd y mater ei drin felly gan y blaid, a chafodd William Powell rybudd ffurfiol gan y prif chwip, Aled Roberts AC.
Mae William Powell wedi ymddiheuro am ei ymddygiad.
Daeth y newyddion i’r amlwg wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wynebu trafferthion cynyddol ynghylch ymddygiad honedig eu cyn-brif weithredwr, yr Arglwydd Rennard, a rhwyg o fewn y blaid o ran sut i ymdrin â’r mater.