Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad a arweiniodd at argyfwng ar ffyrdd yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ddoe.

Cafodd yr heddlu alwad tua hanner dydd fod car Fiat Punto glas wedi cael ei gymryd o ardal Saundersfoot, a’r gred oedd mai bachgen yn ei arddegau oedd wedi ei gymryd.

Yn sgil pryder am ddiogelwch, defnyddiodd yr heddlu eu hofrennydd i chwilio amdano, a gwelwyd y car yn achosi mân ddifrod i amryw o gerbydau llonydd a symudol wrth gael ei yrru o Saundersfoot i Sir Gaerfyrddin mewn modd anwadal.

“Roedd diogelwch y cyhoedd a’r gyrrwr yn ei arddegau’n holl bwysig drwy’r adeg,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Felly roedd yn anodd stopio’r cerbyd ac roedd yn rhaid monitro’r sefyllfa’n barhaus a gwneud asesiadau risg.

“Tua 12.35 roedd y car mewn gwrthdrawiad â char arall, Citroen Xsara, yn ardal Porth Tywyn. Aed â’r ddau a oedd yn y Citroen, a gyrrwr y Fiat Punto, i Ysbyty Glangwili, yn dioddef o’r hyn a gredir oedd yn fân anafiadau.”

Ychwanegodd fod gyrrwr y Fiat Punto wedi cael ei arestio a’i gymryd i’r ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am i unrhyw dystion, neu rywun sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, gysylltu â nhw ar 101.