Y gwrthdaro tanllyd yn Kiev ddoe (AP Photo/Sergei Grits)
Dwysáu mae’r gwrthdaro yn yr Wcrain wrth i dorf fawr ymosod ar un o adeiladau’r llywodraeth yn y brifddinas, Kiev, yn ystod y nos.

Mae protestwyr wedi bod yn taflu bomiau tân a thân gwyllt, gyda’r heddlu wedi bod yn ymateb gyda nwy dagrau.

Mae’r adeilad sydd o dan warchae tua 250 llath o Sgwâr Annibyniaeth y ddinas, lle mae protestiadau heddychlon wedi digwydd ddydd a nos ers dechrau mis Rhagfyr, a lle mae protestwyr wedi sefydlu gwersyll enfawr.

Dechreuodd y protestiadau hyn ar ôl i arlywydd y wlad, Viktor Yanukovych, ohirio arwyddo cytundeb masnach na’r Undeb Ewropeaidd a chreu cytundebau â Rwsia yn lle hynny.

Gwaethygu

Aeth pethau o ddrwg i waeth dros yr wythnos ddiwethaf wrth i brotestwyr gychwyn gwrthdaro â’r heddlu gerllaw senedd y wlad yn sgil cyfreithiau newydd llym yn erbyn protestiadau.

Mae un o arweinwyr y gwrthwynebwyr, Arsenly Yatsenyuk, wedi rhybuddio y bydd y protestiadau’n parhau er gwaethaf cynnig gan yr arlywydd Viktor Yanukovych i’w wneud yn brif weinidog.

Dywedodd wrth y dorf ddoe y bydd yn rhaid i’r arlywydd gytuno i rai o alwadau allweddol y gwrthwynebwyr ac y bydd trafodaethau’n parhau.

Mae disgwyl i sesiwn arbennig o’r senedd ddydd Mawrth fod yn allweddol.

Mae’n ymddangos hefyd fod rhaniad cynyddol yn y wlad, gyda’r gorllewin yn gryf o blaid cysylltiadau â’r Undeb Ewropeaidd tra bod y dwyrain diwydiannol a Rwseg ei iaith yn fwy cefnogol i safbwynt y llywodraeth.