Cafodd 49 o bobl eu lladd yn Cairo ddoe mewn helyntion rhwng protestwyr a lluoedd llywodraeth yr Aifft.

Roedd y digwyddiadau’n cael eu cynnal gan wahanol garfannau yn y wlad i nodi tair blynedd union ers cychwyn y chwyldro a arweiniodd at ddymchwel yr arlywydd Hosni Mubarak.

Yn ôl y llywodraeth, cafodd dros fil o bobl eu harestio ddoe.

Fe fu lluoedd y llywodraeth yn ymladd yn erbyn protestwyr Islamaidd a rhai seciwlar, ac mewn rhai gwrthdystiadau fe fu cefnogwyr y llywodraeth filwrol yn helpu’r heddlu yn erbyn y protestwyr.

Yn Sgwâr Tahir, lle cychwynnodd y chwyldro yn 2011, daeth torfeydd enfawr i ralïau wedi’u cefnogi gan y llywodraeth, lle bu galwadau ar i bennaeth y fyddin, y Cadfridog Abdel-Fattah el-Sissi ymgeisio am arlywyddiaeth y wlad.