Senedd yr Alban
Mae’r arolwg barn diweddaraf yn dangos cynnydd sylweddol yn y gyfran o bobl sy’n bwriadu pleidleisio o blaid annibyniaeth i’r Alban ym mis Medi.

Yn ôl yr arolwg yn y papur newydd Scotland on Sunday, mae’r gefnogaeth i annibyniaeth wedi tyfu o 32% i 37% dros y pedwar mis diwethaf.

Dros yr un cyfnod, mae’r gyfran sy’n bwriadu pleidleisio Na wedi syrthio o 49% i 44%.

O ddiystyru’r rhai nad ydyn nhw wedi penderfynu eto, dywed 46% eu bod nhw am bleidleisio o blaid annibyniaeth yn y refferendwm ar 18 Medi, o gymharu â 54% yn erbyn.

Newyddion da i’r ymgyrch ‘Ie’

Wrth gymharu’r ffigurau hyn ag arolygon eraill, dyma’r symudiad mwyaf tuag at bleidlais o blaid ers cychwyn yr ymgyrch. Dyma hefyd y gefnogaeth gryfaf dros annibyniaeth i gael ei chofnodi gan unrhyw arolwg annibynnol.

Yn ôl John Curtice, Athro Gwleidyddiaeth Prifysgol Ystrad Clud, dyma’r newyddion gorau y mae’r ymgyrch Ie wedi ei gael o’r cychwyn.

Petai tueddiadau tebyg i hyn yn parhau dros yr wyth mis nesaf, gallai buddugoliaeth fod o fewn cyrraedd y rhai sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban.

Cafodd yr arolwg o dros 1,000 o bobl dros 16 oed ei wneud gan gwmni ICM rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener.