Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth a thystion ar ôl i leidr ymosod ar ddyn yn ei gartref mewn tŷ yn Rhuthun fore ddoe.
Fe fu’n rhaid mynd ag un o drigolion stryd Porth y Dre i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ar ôl yr ymosodiad.
Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru:
”Credir fod rhywun wedi torri i mewn i’r eiddo ond bod un o’r preswylwyr wedi tarfu arnynt ac wedi dioddef anafiadau i’w pen wrth wneud hynny. “Ni chredir fod yr anafiadau yn rhai difrifol.
“Rhedodd y troseddwr i ffwrdd oddiyno.”
Ychwanegodd fod yr heddlu wedi bod yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ yn yr ardal, a dywedodd y dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, neu a welodd unrhyw beth amheus, gysylltu â CID Llanelwy ar unwaith ar 101, neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.
Torri i mewn i dai yn Llanuwchllyn
Mae’r Heddlu’n gofyn am gymorth y cyhoedd ar ôl lladradau o ddau dŷ yn Llanuwchllyn hefyd.
Meddai Maldwyn Roberts, ymchwilydd sifil ar ran Heddlu’r Gogledd:
“Rywbryd yn ystod yr wythnos ddiwethaf neu efallai ychydig cyn hynny, aeth lladron i mewn i ddau dŷ pâr yn y pentref a dwyn allweddi, alcohol a henebion yn cynnwys ornaments a bwrdd bach.
“Dw i’n apelio ar i unrhyw un a oedd yn y pentref ar y pryd ac a allai fod wedi gweld unrhyw weithgaredd amheus neu sydd efallai yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol, i gysylltu â’r heddlu.”
Ychwanegodd: ‘Yn ffodus iawn nid yw troseddau o’r fath yn digwydd yn aml yn yr ardal, fodd bynnag dyma gyfle i atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus a sicrhau fod eu heiddo ar glo ac yn ddiogel. Os ydych yn gweld unrhyw beth amheus, riportiwch o ar unwaith.”
Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Maldwyn Roberts yn CID Porthmadog ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu cyfeirnodau RC14010244 ac RM14000975.