Mae cylchgrawn Y Selar wedi cyhoeddi mai Dyl Mei a Gethin Evans fydd yn cyflwyno eu noson Gwobrau yn Aberystwyth y mis nesaf.

Y ddau gerddor profiadol, sydd bellach yn cyflwyno ar raglenni Radio Cymru, oedd yn llywio’r noson gyntaf ym Mangor y llynedd hefyd.

Yn ogystal, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi ychwanegiadau at lein-yp y noson, a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 15 Chwefror.

Yn eu mysg mae’r cynhyrchydd electroneg cudd, Gramcon.

Pwy yw Gramcon?

Does neb yn gwybod pwy yw Gramcon go iawn,  ond mae wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ddiddorol, ynghyd ag ail-gymysgiadau o ganeuon artistiaid Cymraeg eraill dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd yn paratoi cymysgedd arbennig o ganeuon ar gyfer ei set DJ cyntaf yn Noson Wobrau’r Selar.

Dau ychwanegiad arall i’r arlwy yw’r canwr-gyfansoddwr, Gildas, a’r artist electroneg Crash.Disco!

Mae’r tri yn ymuno â’r enwau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi sef Yr Ods, Candelas, Sŵnami, Bromas, Yr Eira, Casi Wyn a Kizzy Crawford.

Mae manylion llawn yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘digwyddiad cerddorol mwyaf 2014 hyd yn hyn’ ar wefan Y Selar a thocynnau ar werth o Sadwrn. com.