Fe fydd y comedïwr a’r cyflwynyddteledu enwog Les Dennis yn ymuno â chast Coronation Street, yn chwarae rhan lleidr sy’n ceisio torri mewn i dŷ ar y stryd.

Mae wedi dechrau ffilmio’r rhaglenni fel y cymeriad ‘Michael Rogers’ ers ddydd Llun, ac fe fydd i’w weld ar y sgrin ddiwedd mis Mawrth.

Ar hyn o bryd, mae Les Dennis yn chwarae rhan yn y sioe lwyfan The Perfect Murder.

Cyn hynny roedd yn chwarae rhan yn y sioe gerdd Spamalot yn y West End. Ac mae’n cael ei adnabod orau am gyflwyno’r rhaglen Family Fortunes am bymtheg mlynedd.

Dywedodd cynhyrchydd Coronation Street: “Mae Les yn berfformiwr gwych ac rwy’n methu aros iddo ymuno â’r tîm.”