Rhodri Morgan, un o gyfarwyddwyr gorsaf Abertase
Mae’r cwmnïau sydd wedi ennill trwyddedau teledu lleol ar gyfer Bae Abertawe a Chlwyd yn rhan o rwydwaith dan arweiniad yr orsaf leol yn Lerpwl.
A’r un grwp – Bay TV – sy’n gyfrifol am yr unig gais ar gyfer teledu
lleol yng Ngwynedd hefyd.
Yng Nghlwyd, ,maen nhw’n addo hanner awr o raglenni Cymraeg gwreiddiol bob wythnos a “rhai rhaglenni newyddion a nodwedd” yn Gymraeg yn Abertawe.
Fe fydd rhaglen i ddysgwyr yno hefyd.
Ofcom yn cyhoeddi
Fe gyhoeddodd y corff rheoleiddio darlledu, Ofcom, mai Bay TV sydd wedi ennill y drwydded yn ardaloedd Abertae a’r Wyddgrug.
Tra bod gan Bay TV Abertawe gyfarwyddwyr annibynnol, sy’n cynnwys cyn Bri Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a phennaeth cwmni teledu Telisgop, Elin Rhys, cyfarwyddwyr yr orsaf yn Lerpwl a fyddai’n gyfrifol am y gorsafoedd yn y gogledd.
Mae’n ymddangos hefyd mai o Lerpwl y byddai’r gorsafoedd yn cael eu rheoli gyda’r lefel o raglenni lleol yn llawer llai nag yn Abertawe.
Er eu bod yn gwmni ar wahân, mae Bay TV Abertawe’n dweud y byddan nhw hefyd yn “cydweithio” gyda’r gorsafoedd eraill yn y grwp.
Y rhaglenni
Yn Abertawe, mae’r cwmiau’n addo 25 awr yr wythnos o raglenni lleol gwreiddiol, ond dim ond ychydig tros chwech awr a hanner yr un yng Nghlwyd a Gwynedd.
Mae hynny, yn ôl yr awgrym yn eu ceisiadau, oherwydd lefel yr incwm masnachol tebygol yn y gwahanol ardaloedd.
Mae’r cwmnïau yn yr Wyddgrug a Gwynedd yn is-gwmniau llawn i Bay TV Liverpool sydd wedi ennill y drwydded yno, dan arweiniad pennaeth asiantaeth newyddion leol, Chris Johnson.