Tom Jones
Bydd y canwr Tom Jones ymysg yr enwau mawr fydd yn canu yng nghyngerdd Access All Eirias yr haf yma – ac fe fydd hi’n achlysur arbennig i’r seren fyd-enwog.
Y sioe ar 25 Gorffennaf fydd y gyngerdd awyr agored fawr gyntaf erioed i Tom Jones, sydd yn feirniad ar raglen The Voice, berfformio ynddi yng Ngogledd Cymru, ac fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at yr achlysur.
“Credwch neu beidio, hon fydd fy sioe awyr agored fawr gyntaf i yng Ngogledd Cymru,” cyfaddefodd Tom Jones wrth gyhoeddi’r newyddion. “Mae dod yn ôl i Gymru i berfformio wastad yn bleser, ac yn lleoliad gwych Parc Eirias fe rown ni sioe a hanner.”
Fe wnaeth y canwr 73 oed o Drefforest, Pontypridd, enw iddo’i hun ar draws y byd gyda chaneuon enwog gan gynnwys ‘Delilah’, ‘It’s Not Unusual’ a ‘Green, Green Grass of Home’. Fe yw’r enw cyntaf i gael ei gadarnhau ar gyfer y cyngerdd.
Mae’r cyngerdd yn dychwelyd am ei thrydedd flwyddyn yn 2014, gydag enwau mawr gan gynnwys Olly Murs, Pixie Lott ac Only Boys Aloud yn perfformio yn y flwyddyn agoriadol, a Little Mix, Conor Maynard, Rhydian a Sophie Evans yn cynhyrfu’r dorf y llynedd.
Yn ogystal a chynnal digwyddiadau cerddorol mae Parc Eirias hefyd wedi bod yn gartref i dîm rygbi dan-21 Cymru, gyda’r bechgyn ifanc yn chwarae eu gemau Chwe Gwlad ym Mae Colwyn unwaith eto eleni.
‘Cyfnod cyffrous’
Ac fe ddywedodd Iwan Davies, Prif Weithredwr Cyngor Sir Conwy, fod sicrhau enw mawr fel Tom Jones yn mynd i fod yn hwb mawr i Access All Eirias a’r maes.
“Mae’n wych bod Access All Eirias yn dychwelyd am ei thrydedd flwyddyn,” meddai Iwan Davies. “Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Tom Jones i Fae Colwyn; mae hwn yn enfawr i’r ardal a fyw i chi’i fethu.
“Mae Eirias yn rhan annatod o’n gwaith adfywio ym Mae Colwyn ac mae digwyddiadau proffil uchel fel hon yn helpu ei sefydlu fel lleoliad perffaith i ddigwyddiadau cymunedol, diwylliannol a chwaraeon.
“Mae’n cynnig cyfle i bobl Gogledd Cymru weld artistiaid mawr ar eu stepen drws, yn ogystal a chynnig cyfleoedd busnes sylweddol i’r ardal. Mae’n amser cyffrous i Fae Colwyn ac mae’n fraint i ni gyd i fod yn rhan ohono.”