Ian Watkins
Mae cyn ganwr y Lostprophets Ian Watkins wedi gwneud cais i apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Cafodd Watkins, 36, o Bontypridd ei ddedfrydu i 35 mlynedd yn y carchar am gyfres o droseddwy rhyw yn erbyn plant.

Daeth cadarnhad bod Watkins wedi gwneud cais i’r Llys Apel yn erbyn y ddedfryd, sy’n cynnwys 29 mlynedd yn y carchar a 6 blynedd ar drwydded.

Cafodd Watkins ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf ar ol iddo gyfaddef i 13 o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd dwy ddynes arall – mamau’r plant – hefyd eu carcharu am 14 mlynedd ac 16 mlynedd yr un am droseddau rhyw yn erbyn plant.

Clywodd Watkins y bydd yn gorfod treulio dwy ran o dair o’i ddedfyrd yn y carchar cyn gwneud cais am barol.