Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau bod yr heddlu wedi cael eu galw i’w maes hyfforddi ddydd Gwener yn dilyn ffrae rhwng yr amddiffynwyr Garry Monk a Chico Flores.

Fe wnaeth y ddau wrthdaro wrth i’r Elyrch baratoi ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Tottenham ddydd Sul. Colli oedd hanes yr Elyrch ac mae’n golygu bod wyth gêm wedi bod ers iddyn nhw ennill ddiwethaf.

Mae adroddiadau’n honni bod Chico Flores wedi cael ei weld yn chwifio brics yn ystod y digwyddiad, ond mae’r clwb wedi dweud nad yw hyn yn wir.

Dywedodd llefarydd ar ran clwb pêl-droed Abertawe: “Fe fu ffrae rhwng Chico Flores a Garry Monk ond dyw digwyddiad fel hyn ddim yn anghyffredin ar feysydd hyfforddiant ar draws y wlad. Ond ni fu bygythiadau neu ffrwgwd rhwng y chwaraewyr dan sylw.

“Rydyn ni’n deall mai aelod o’r cyhoedd wnaeth ffonio’r heddlu a gall y clwb ddweud yn bendant nad oedd neb wedi cael ei fygwth â brics.”

Dywedodd datganiad gan Heddlu De Cymru: “Cafodd yr heddlu eu galw i’r maes hyfforddi tua 1.30yp ddydd Gwener.

“Nid oedd angen i’r heddlu weithredu mewn unrhyw fodd.”

Nid yw’r cyn-gapten, Garry Monk, wedi chwarae ers mis Medi ar ôl dioddef anaf i’w ben-glin  tra bod Chico Flores, wnaeth arwyddo i’r clwb o Genoa yn haf 2012, heb fod ar ei orau dros y misoedd diwethaf chwaith.