Lee Byrne
Brasgamodd Lee Byrne a Chlermont i mewn i wyth olaf Cwpan Heineken dros y penwythnos gyda buddugoliaeth swmpus o 28-3 yn erbyn Racing Metro.

Dychwelodd Byrne o anaf i ddechrau’i gêm gyntaf ers dros fis, tra bod Jamie Roberts hefyd yn dychwelyd i XV cyntaf y gwrthwynebwyr o Baris.

Ond crasfa arall gafodd Roberts a Dan Lydiate, ddaeth oddi ar y fainc, unwaith eto, gyda Racing Metro’n parhau â’u tymor siomedig hyd yn hyn wrth orffen ar waelod y grŵp.

Gwrthwynebwyr Clermont yn yr wyth olaf fydd Caerlŷr, a gollodd 19-22 i Ulster dros y penwythnos i ddod yn ail yn y grŵp oedd er hynny’n ddigon – doedd y munud a gafodd Owen Williams ar y cae ddim yn ddigon i wneud unrhyw wahaniaeth.

Roedd George North ar y tîm buddugol unwaith eto wrth i Northampton drechu Castres 13-3 i orffen yn ail yn eu grŵp a selio’u lle yng Nghwpan Amlin, George Pisi’n sgorio unig gais y gêm.

Ceri Sweeney ar y fainc oedd yr unig Gymro yn rhengoedd Caerwysg wrth iddyn nhw drechu’r Gleision 13-19 yn yr Heineken i roi diwedd ar eu hymgyrch Ewropeaidd nhw.

A Will James oedd yr unig Gymro i wneud ymddangosiad wrth i Gaerloyw ennill 18-36 i ffwrdd yn Perpignan, gyda Martyn Thomas yn aros ar y fainc a dim Luke Charteris na James Hook i’r Ffrancwyr.

Yng Nghwpan Amlin fe ddechreuodd Paul James i Gaerfaddon wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus o 54-13 yn erbyn Bordeaux i orffen eu grŵp gyda record 100%, a chadarnhau gêm gartref yn erbyn Brive yn rownd wyth olaf y gwpan.

Yn ymuno â nhw yn wyth olaf yr Amlin fydd Sale ar ôl iddyn nhw wasgu buddugoliaeth o 7-9 i ffwrdd yn Biarritz a’r Cymry’n flaenllaw eto.

Chwaraeodd Dwayne Peel a Nick MacLeod awr o’r ornest honno cyn cael eu heilyddio, gyda Marc Jones, Eifion Lewis-Roberts a Jonathan Mills yn darparu cefnogaeth o’r fainc – a Ben Broster yn rhan o dîm anlwcus y Ffrancwyr.

Gorffennodd Gwyddelod Llundain eu hymgyrch Ewropeaidd gyda buddugoliaeth swmpus yn Cavalieri, Andy Fenby’n sgorio un o’u ceisiau, tra ddaeth Warren Feeney oddi ar y fainc ym muddugoliaeth Newcastle o 28-0 yn erbyn Bucharest.

Seren yr wythnos: Lee Byrne – ei obeithion rhyngwladol wedi pylu, ond gall barhau i obeithio am lwyddiant yn Ewrop gyda’i glwb cyn iddo adael ar ddiwedd y tymor.

Siom yr wythnos: Dan Lydiate – ar y fainc eto i Racing Metro, dyw’r Cymro ddim wedi cael llawer o hwyl arni’n Ffrainc eto.