Rhwydodd Gareth Bale ei gôl gyntaf ers bron i ddeufis wrth i Real Madrid sicrhau buddugoliaeth gyfforddus tu hwnt o 5-0 i ffwrdd yn Real Betis.
Ar ôl i chwaraewr gorau’r byd, Ronaldo, gipio’r gôl agoriadol, rhwydodd Bale gyda chic rydd wych i ddyblu mantais Madrid, cyn i goliau gan Benzema, Di Maria a Morata selio’r canlyniad.
Ond os oedd Bale yn cael hwyl arni’n Sbaen, siomedig oedd y canlyniadau i nifer o Gymry’r Uwch Gynghrair gyda’r ddau glwb Cymreig yn colli eto.
Daeth Craig Bellamy a Declan John oddi ar y fainc gyda chwta ugain munud yn weddill a’r sgôr yn 2-1, ond roedd hi wastad am fod yn her yn yr Etihad a doedd dim y gallai’r Cymry wneud i stopio Man City rhag curo Caerdydd o 4-2 erbyn y chwib olaf.
Siomedig oedd prynhawn Ben Davies ac Ashley Williams hefyd er gwaethaf dechrau da gan Abertawe, gyda’r Elyrch yn amddiffyn yn flêr ar adegau ac yn cael eu trechu 3-1 gan Tottenham.
Colli o 3-1 oedd hanes West Ham hefyd gartref i Newcastle, gyda James Collins yn ôl o anaf ac yn chwarae 90 munud llawn tra cafodd Jack Collison ei eilyddio ar yr egwyl.
Ond roedd hi’n well prynhawn i Danny Gabbidon a Crystal Palace, wrth iddyn nhw ennill 1-0 yn erbyn Stoke i godi oddi ar waelod y tabl – a Chaerdydd yn cymryd eu lle yno.
Dychwelodd Joe Allen o anaf hefyd gan chwarae’r 25 munud olaf ar ôl i Lerpwl frwydro nôl am gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn Aston Villa.
Yn y Bencampwriaeth, sgoriodd Sam Vokes am ei drydedd gêm yn olynol wrth i Burnley ildio gêm gyfartal o 1-1 i Sheffield Wednesday, canlyniad sy’n golygu eu bod nhw’n llithro o’r safleoedd dyrchafu awtomatig.
Fe fu’n brynhawn ffrwythlon tu hwnt i dîm Chris Gunter wrth i Reading roi crasfa o 7-1 i Bolton.
Ond chafodd criw Charlton ddim cymaint o hwyl, gyda Simon Church yn dod oddi ar y fainc a methu cyfle euraidd, a Rhoys Wiggins yn gweld cerdyn coch hwyr, wrth iddyn nhw golli 1-0 i Middlesbrough.
Colli oedd hanes Steve Morison gyda Millwall ac Adam Henley gyda Blackburn hefyd, tra cafwyd ymddangosiadau byr oddi ar y fainc i David Cotterill ac Andy King wrth i Doncaster a Chaerlŷr ennill.
Roedd gêm Wolves wedi’i ohirio yng Nghynghrair Un, ac mae’n siŵr y byddai Owain Fôn Williams wedi gwerthfawrogi petai’r un peth yn wir am gêm Tranmere wrth iddyn nhw golli 3-0 i Peterborough.
Wrth i’r trafodaethau barhau ynglŷn â chytundeb newydd i Joe Ledley, parhaodd Celtic a’u tymor da yn yr Alban wrth drechu Motherwell 3-0 gyda’r Cymro’n chwarae 90 munud.
A chyn i ni orffen cip yr wythnos hon, gwerth sôn am y chwaraewr canol cae ifanc Emyr Huws, a ddaeth i’r maes am ugain munud i Man City am ei gêm lawn gyntaf dros y clwb, wrth iddyn nhw drechu Blackburn 5-0 yng Nghwpan FA ganol yr wythnos.
Mae’r gŵr ifanc o Lanelli eisoes wedi bod yn gapten ar dîm dan-21 Man City – mawr obeithiwn fod yr ymddangosiad yma’n un cyntaf o nifer!
Seren yr wythnos: Gareth Bale – gôl wych gan y Galesa wrth i Real faeddu Betis.
Siom yr wythnos: Rhoys Wiggins – cael ei hel o’r maes wrth i’w dîm geisio achub canlyniad ddim wedi helpu’r achos.