Mae prif weithredwr Dreigiau Casnewydd Gwent Gareth Davies wedi cyfaddef y gallai rhanbarthau Cymru  ymuno ag Uwch Gynghrair Aviva yn Lloegr os na fyddan nhw’n gallu dod i gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae sïon am y Gweilch, Scarlets, Gleision Caerdydd a’r Dreigiau yn symud ar draws y ffin wedi cael eu hadrodd yn eang ond cyn maswr Cymru yw’r person cyntaf o’r rhanbarthau i gadarnhau hynny’n gyhoeddus .

Mae Rygbi Rhanbarthol Cymru, y corff sy’n cynrychioli’r rhanbarthau, wedi mynd benben ag Undeb Rygbi Cymru dros strwythurau cystadlu, yr arian mae’r rhanbarthau yn ei gael a sut mae cadw chwaraewyr gorau Cymru yng Nghymru.

Mae’r rhanbarthau yn awyddus i ymuno â chystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Rygbi – dewis amgen i’r Cwpan Heineken a gafodd ei awgrymu gan glybiau Lloegr ac a honnir y bydd yn talu £1 miliwn yn ychwanegol at beth maen nhw’n ei gael nawr pob tymor.

Mae Undeb Rygbi Cymru, ar y llaw arall, wedi ymrwymo i’r cystadlaethau Ewropeaidd presennol sy’n cael eu rhedeg gan Gwpan Rygbi Ewrop (ERC) a’r RaboDirect Pro12.

Scrum V

Roedd Gareth Davies yn siarad mewn dadl deledu Scrum V BBC Cymru neithiwr am gyflwr y gêm ranbarthol yng Nghymru pan ddywedodd bod ymuno a’r bencampwriaeth Saesneg yn “opsiwn”.

Ychwanegodd : “Ond beth yw ein hopsiynau? Bydd Cwpan Ewrop yn Pro 12 estynedig mewn ffordd ac ni allaf weld yr arian yn dod mewn gan bobl sydd eisiau ein gweld yn chwarae Zebre am y pedwerydd tro mewn tymor.

“Does gan y Pro 12 ddim noddwr ac mae’r Eidalwyr wedi honni’r wythnos hon eu bod nhw am dynnu allan o’r gystadleuaeth. Pa opsiynau sydd gennym ni?

“Mae angen i ni edrych ar gystadleuaeth Ewropeaidd newydd ac ymrwymo ein hunain i’r gynghrair gartref.”

‘Ateb cywir’

Fodd bynnag, byddai twrnamaint Eingl -Gymreig angen cefnogaeth gan Undeb Rygbi Cymru, yr Undeb Rygbi a’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, sy’n annhebygol iawn o ddigwydd.

Mae’r ddwy ochr wedi methu a chytuno ar estyniad i’r Cytundeb Cyfranogiad ac mae’r rhanbarthau wedi gosod terfyn amser o ddiwedd Ionawr i arwyddo un newydd. Mae’r Undeb hefyd wedi awgrymu y gallan nhw  ffurfio timau newydd i gynrychioli Cymru yn y cystadlaethau petai’r rhanbarthau yn gwrthod arwyddo.

Ond gwadodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, mai dyma oedd yr achos.

“Nid wyf wedi cael unrhyw sgyrsiau preifat am sefydlu rhanbarthau newydd,” meddai. “Rwy’ wedi ymrwymo i sicrhau bod y pedwar rhanbarth presennol yn gweithio.

“Gadewch i ni drin hyn gyda’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu . Dyma rygbi Cymru a byddwn yn parhau i weithio tan i ni gael yr ateb cywir ar gyfer rygbi Cymru.”