Scarlets 20–22 Harlequins
Ni fydd unrhyw ranbarth o Gymru yn cystadlu mewn cystadleuaeth Ewropeaidd am weddill y tymor wedi i fuddugoliaeth yr Harlequins ar Barc y Scarlets brynhawn Sul atal lle’r Scarlets a’r Gleision yng Nghwpan Amlin.
Roedd angen buddugoliaeth a phwynt bonws ar y Scarlets i gyrraedd wyth olaf yr Amlin ac er iddynt ddod yn agos at hynny gyda thri chais, roedd buddugoliaeth glos yn ddigon i sicrhau lle’r Harlequins yn y gystadleuaeth honno ar draul y Gleision.
Cyfartal oedd hi wedi chwarter cyntaf y gêm yn dilyn ceisiau Gareth Davies i’r Scarlets a Mike Brown i’r ymwelwyr ynghyd â throsiad yr un gan Rhys Priestland a Nick Evans.
Aeth yr Harlequins saith pwynt ar y blaen wedyn gyda chais Ollie Lindsay-Haugue ond Bois y Sosban oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gic gosb Priestland a chais Aaron Shingler.
Cyfnewidiodd y ddau dîm bum pwynt yn gynnar yn yr ail hanner gyda chais yr un i fewnwr Harlequins, Karl Dickson, a chanolwr y Scarlets, Scott Williams.
Roedd y Cymry bwynt ar y blaen o hyd felly wrth i’r chwiban olaf agosáu ond cipiodd yr ymwelwyr y fuddugoliaeth gyda thri phwynt o droed Ben Botica dri munud o’r diwedd.
Byddai cais yn y munudau olaf wedi bod yn ddigon i’r Scarlets ond daliodd yr Harlequins eu gafael ar y fuddugoliaeth i orffen yn ail yn nhabl grŵp 4. Mae’r Scarlets ar y llaw arall yn gorffen yn drydydd gyda dwy fuddugoliaeth mewn chwe gêm.
.
Scarlets
Ceisiau: Gareth Davies 4’, Aaron Shingler 38’, Scott Williams 49’
Trosiad: Rhys Priestland 4’
Cic Gosb: Rhys Priestland 34’
Cerdyn Melyn: Aaron Shingler 10’
.
Harlequins
Ceisiau: Mike Brown 12’, Ollie Lindsay-Haugue 27’, Karl Dickson 43’
Trosiadau: Nick Evans 12’, 27’
Cic Gosb: Ben Botica 77’