Mae Canolfan Gymraeg Saith Seren yn Wrecsam wedi diswyddo eu rheolwraig Amanda Hughes, wrth iddyn nhw ailstrwythuro er mwyn arbed arian.
Hefyd mae’r fenter yn ceisio codi £10,000 erbyn Mawrth y 1af er mwyn talu biliau, prynu offer a thrwsio’r drws cefn, ac yn gofyn i bobol gyfrannu at eu hapêl.
Yn ôl y cyfarwyddwr Marc Jones, mae hi wedi bod yn “flwyddyn anodd” a gyda chanol dre’ Wrecsam yn “parhau i ddirywio a’r economi yn gyffredinol wan a dim golwg am welliant” dydy pethau ddim yn edrych yn llawer gwell ar y funud.
Arian aelodau
Mae Canolfan Saith Seren yn cael ei rhedeg gydag arian o bocedi aelodau ers tair blynedd. Mae’r ganolfan yn gartref i Fenter Iaith Maelor, dosbarthiadau Cymraeg i bob lefel o ddysgwyr, Cylch Ti a Fi a sesiynau siarad dysgwyr.
“Rydym wedi gweithio’n galed i gadw’r blaidd o’r drws wrth i ni wynebu costau cynyddol o ran rhent, tanwydd a phrisiau cwrw,” meddai Marc Jones.
“Megis cychwyn ar y daith ydan ni a gobeithiwn y byddwch chi, a chefnogwyr eraill yr iaith, yn barod i gyfrannu at ein hapêl.”
Mae’r ganolfan yn bwriadu cynnal mwy o nosweithiau Cymraeg ac yn ymbil ar bobol i ddefnyddio’r ganolfan yn gyson.
Ar 24 Ionawr bydd Canolfan Saith Seren yn dathlu ei phen-blwydd gyda noson arbennig yng nghwmni Tecwyn Ifan.