Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain bellach wedi arestio dyn sy’n cael ei amau o bleseru ei hun ar drên tra’n teithio rhwng Caerdydd ac Ystrad Rhondda.

Cafodd llun ei ryddhau o’r dyn gan yr heddlu ar ôl y digwyddiad ar y seithfed o Ionawr eleni, yn dilyn cwyn ei fod wedi aflonyddu ar ddynes 24 oed oedd yn eistedd wrth ei ymyl.

Mae dyn 20 oed o Porth bellach wedi cael ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan 18 Mawrth wrth i’r heddlu barhau â’r ymchwiliad.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Mark Cleland o Heddlu Trafnidiaeth Prydain fe ddechreuodd y dyn ymddwyn yn anweddus tuag at ei gyd-deithiwr cyn dechrau chwarae gyda’i hun.

Roedd y ddynes wedi ypsetio wedi’r digwyddiad ar y trên 17.06 rhwng Gorsaf Canol Caerdydd a Threherbert, ac fe roddodd wybod i’r heddlu.

Rhagor wedi cwyno

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth: “Hoffem ddiolch i’r cyfryngau lleol a chenedlaethol am eu cymorth wrth gyhoeddi’r apêl, yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd a ddaeth atom gyda gwybodaeth.”

Cadarnhaodd yr heddlu bod tri arall wedi dod ymlaen i gwyno’n swyddogol ers gwneud yr apêl.

Galwodd DI Mark Cleland ar unrhyw un arall oedd wedi dioddef ymddygiad y dyn i ddod atyn nhw gyda rhagor o wybodaeth.

Tatŵ du

Roedd y dyn o dan sylw yn gwisgo cap dros ei glustiau, crys glas dros grys-t gwyn a gwaelodion tracwisg Slazenger du.

Cafodd ei ddisgrifio gan ei gyd-deithiwr yn ddyn gwyn yn ei ugeiniau hwyr neu dridegau cynnar, a thua pum troedfedd a chwe modfedd o daldra.

Hefyd roedd ganddo datŵ du ar ei fraich chwith.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40 gyda’r cyfeirnod WCA/B5, neu Atal Troseddwyr yn ddienw ar 0800 555 111.