Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi galw am newid agwedd yng Nghyngor Sir Benfro tuag at yr iaith Gymraeg, ar ôl iddyn nhw ddweud mewn hysbyseb swydd nad yw’r iaith Gymraeg yn rhan flaenllaw o’u gwasanaeth gofal cymdeithasol.
Dywedodd y cyngor ar ôl ymholiad gan golwg360 ddoe y bydden nhw’n addasu’r geiriad er mwyn cywiro’r ffaith gamarweiniol hyn – ac maen nhw bellach wedi gwneud newidiadau.
Mae’r frawddeg oedd yn dweud nad oedd y Gymraeg yn flaenllaw yn eu gwasanaethau wedi’i ddileu, ac maen nhw bellach yn dweud eu bod yn cydnabod fod “siaradwyr Cymraeg yn ased gwerthfawr” yn y gweithle.
Fodd bynnag, mae’r cyngor yn dal i ddweud nad oes angen poeni “os nad ydych yn ddwyieithog” yn yr hysbyseb, ac yn parhau i bwysleisio mae ond yn rhai rhannau o ogledd Penfro y mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad.
Cywiro camargraff
Yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, mae’r datganiad yn yr hysbyseb yn rhoi camargraff o’r sefyllfa ieithyddol yn Sir Benfro – ble mae tua 23,000 o siaradwyr Cymraeg, sef 19% o’r boblogaeth, yn ôl Cyfrifiad 2011.
“Mae’n dda eu bod nhw bellach wedi cywiro’r wybodaeth, ond y tu ôl i hynny mae’r holl agwedd am y defnydd o’r Gymraeg – gobeithio y bydd hyn yn treiddio i weddill y cyngor.
“Rydym yn croesawu’r ffaith bod y sir yn cynnig hyfforddiant iaith am ddim i weithwyr a byddai’n dda gweld y Cyngor yn gwneud ymdrech wirioneddol i ddarparu gweithwyr cymdeithasol sy’n gallu delio â siaradwyr Cymraeg yn drylwyr.
“Hoffem weld Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw Cyngor Sir Benfro at arfer da yn y maes hwn, ac i gynnig gwell gwasanaeth trwy’r Gymraeg.”
Angen newid agwedd
Bu mam Angharad Dafis yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Llwyn Helyg yn ddiweddar, ac fe ddywedodd hi eu bod nhw wedi dod ar draws problem ddyfnach o agwedd tuag at y Gymraeg mewn gwasanaethau ar draws y sir.
“Rwy’n synnu‘n fawr eu bod nhw wedi rhoi hynny mewn hysbyseb,” meddai Angharad Dafis. “Mae’n warthus eu bod nhw wedi dweud hynny.
“Roedd un esiampl ble nad oedd unrhyw therapydd galwedigaethol oedd yn siarad Cymraeg ar gael i ddod i wneud asesiad o fy mam unrhyw le yn Sir Benfro na sir Aberteifi, ac fe gafodd hi ddamwain tra’n aros.
“Mae’r agwedd yn broblem – maen nhw’n gwneud i ni deimlo mae ein problem ni yw e’n bod ni’n siarad Cymraeg, nid problem y staff.
“Mae’n rhaid newid y meddylfryd o’r top ynglŷn â’r iaith.”
“Sarhad” medd Cymdeithas
Beirniadodd Cymdeithas yr Iaith y ffaith fod y Cyngor yn parhau i ddweud mae iaith a siaredir yn rhai mannau o ogledd y sir yn unig yw’r Gymraeg.
“Mae’n warthus bod y Cyngor wedi dweud y fath beth,” meddai Gwyndaf Tomos, aelod lleol o’r Gymdeithas yn Sir Benfro. “Ydi’r Cyngor yn awgrymu nad oes angen i blant yn ne’r Sir gael gofal a chefnogaeth yn Gymraeg?
“Nid iaith ar gyfer rhannau o’r gogledd yw’r Gymraeg – ond iaith ar gyfer yr holl sir. Yn siaradwyr rhugl, dysgwyr a phobl sydd yn dymuno gallu byw drwy’r Gymraeg.
“Rydyn ni’n galw ar y Cyngor Sir i dynnu’r hysbyseb yma yn ôl yn syth ac i ail hysbysebu’r swydd gan ofyn bod y Gymraeg yn hanfodol – ac yn mynnu fod Arweinydd y Cyngor a llefarydd y Cabinet ar y Gymraeg yn cyfiawnhau fod y fath hysbyseb wedi cael caniatâd yn y lle cyntaf.”