Tamprwydd yng nghartref y Cynghorydd Pickavance
Mae hen dai cyngor nifer o drigolion stad Maesgeirchen ym Mangor yn dioddef o damprwydd difrifol ers i Gyngor Gwynedd gynnig rhaglen i insiwleiddio’r tai yn rhad ac am ddim i’r tenantiaid.

Yn ôl un o gynghorwyr Maesgeirchen, sy’n byw mewn hen dŷ cyngor ei hun, y gwaith insiwleiddio sydd ar fai.

Mae’r Cynghorydd Nigel Pickavance yn galw am ddod â’r cynllun insiwleiddio am ddim i ben.

Ail blastro ac addurno

Saith mlynedd yn ôl roedd Cyngor Gwynedd yn cynnig y cyfle i bobol insiwleiddio waliau eu tai gyda Hillserve, cwmni sydd wedi ei brynu gan gwmni British Gas erbyn hyn. (Nid yw’r cwmni yn arddel yr enw ‘Nwy Prydain’ yn dilyn ailfrandio).

Fe wnaeth  y Cynghorydd Nigel Pickavance “neidio ar y cyfle” meddai.

“Am ei fod o am ddim, wnaethon ni ddim gofyn llawer o gwestiynau ar y pryd,” meddai’r cynghorydd sir gafodd ei ethol yn 2012 ac sy’n dad i dri o blant.

Ond yn y deuddeg mis diwethaf mae Nigel Pickavance wedi sylwi fod tamprwydd wedi taro ar ei dŷ ac mae wedi gorfod ail blastro ac addurno ei ystafell fyw.

“Alla i ddim fforddio’r holl waith addurno sydd angen ei wneud. Mae o drwy’r holl dŷ ac wedi  ymestyn i ystafelloedd gwely’r plant. Rwy’n poeni am eu hiechyd gan fod fy merch newydd gael triniaeth yn yr ysbyty.”

80 o ymatebion dros nos

Fe wnaeth y Cynghorydd Nigel Pickavance dynnu sylw at y tamprwydd ar ei dudalen facebook, a  gofyn os oedd rhywun arall yn cael trafferthion ers i’r gwaith insiwleiddio gael ei wneud.

“Fe ges i 80 o ymatebion dros nos, roedd y peth yn anhygoel,” meddai.

“Rwy’n bryderus iawn fod pobol yn dal i weld y cyfle fel modd o arbed arian, heb fod yn ymwybodol o’r effeithiau. Mae angen rhoi diwedd ar y rhaglen.”

Nid yw Cyngor Gwynedd bellach yn gyfrifol am yr hen dai cyngor, sy’n berchen i Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Mae British Gas wedi dweud na allen nhw wneud sylw ar y mater tra maen nhw’n ymchwilio i’r sefyllfa.