Daeth ddiffoddwyr tân o hyd i gorff dynes 93 oed mewn tŷ yng Ngharrog ger Corwen y prynhawn yma, ar ôl i ddiffoddwyr gael eu galw yno.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r byngalo toc ar ôl hanner awr wedi tri, gyda chriwiau o ddiffoddwyr o Langollen yn defnyddio offer anadlu a phiben chwistrellu i fynd i mewn i’r adeilad.

Fe ddaethon nhw o hyd i gorff y ddynes oedrannus yn farw yn y tŷ.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ymchwilio ar y cyd i’r digwyddiad, ond nad oes unrhyw fanylion pellach i’w cael ar hyn o bryd.