Llifogydd yn Y Rhyl ym mis Rhagfyr
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dweud bod ffigurau Llywodraeth Prydain ynglŷn â gwariant ar amddiffynfeydd llifogydd yn “gamarweiniol”, ar ôl i weinidog Defra ddweud eu bod yn gwario “mwy nac erioed”.
Dangosodd ffigyrau bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn gwario £2.34biliwn ar amddiffynfeydd yn y pedair blynedd rhwng 2011-2015, o’i gymharu â £2.37biliwn rhwng 2007-2011.
Dywedodd Defra y byddai’r gwariant yn fwy nac erioed unwaith y byddai “arian partneriaeth” o oddeutu £148miliwn gan ddatblygwyr, busnesau, awdurdodau lleol a chymunedau’n cael eu cyfri.
Roedd Ysgrifennydd yr Amgylchedd Owen Paterson wedi dweud fod Llywodraeth San Steffan yn gwario mwy nac unrhyw lywodraeth arall ar amddiffynfeydd llifogydd.
Ac yn ôl y Prif Weinidog David Cameron roedden nhw’n gwario £2.3bn dros y pedair blynedd bresennol, o’i gymharu â £2.1bn yn y pedair blynedd cynt.
Ond fe ddaeth i’r amlwg yn nes ymlaen fod ffigwr y Prif Weinidog o £2.3bn wedi cynnwys blwyddyn o wario gan y Llywodraeth Llafur yn 2010/11, pan oedd y gwariant ar ei uchaf yn £670m.
‘Camarwain’
Ac yn ôl grŵp amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear, roedd y gweinidog wedi camarwain y Senedd trwy awgrymu y byddai’r llywodraeth eu hunain yn gwario mwy nac erioed ar amddiffynfeydd.
“Mae adran Owen Paterson nawr wedi gorfod cyfaddef eu bod wedi torri gwariant ar amddiffynfeydd llifogydd, er gwaethaf honiadau i’r gwrthwyneb gan yr Ysgrifennydd,” meddai Guy Shrubsole o’r mudiad.
“Ar sail y ffigyrau hyn, mae’n ymddangos fod Owen Paterson a’r Prif Weinidog ill dau wedi camarwain y Senedd a’r cyhoedd.
“Mae’n rhaid iddyn nhw ymddiheuro, ond yn fwy na hynny mae’n rhaid iddyn nhw ddechrau bod o ddifrif am amddiffyn y wlad rhag mwy o lifogydd wrth i newid hinsawdd waethygu.”