Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai corff dyn o Gabalfa oedd wedi bod ar goll, y cafwyd hyd iddo yn Afon Taf, Caerdydd ddydd Mawrth.

Daethpwyd o hyd i gorff Ashley Wells,  26, yn y dŵr ger Parc Hailey, Caerdydd pnawn dydd Mawrth.

Cafodd ei gorff ei adnabod yn swyddogol prynhawn ma. Dywed yr heddlu nad oes unrhyw amgylchiadau amheus i’w farwolaeth ac fe fydd cwest yn cael ei gynnal yn y man.