Maes Eisteddfod yr Urdd
Mae’r Urdd wedi cadarnhau y bydd Eisteddfod 2012 yn cael ei gynnal ar dir Coleg Meirion Dwyfor yn Glynllifon rhwng Caernarfon a Phwllheli.
Penderfynwyd ar y safle mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth ar ôl derbyn argymhelliad gan Bwyllgor Maes yr Eisteddfod.
Derbyniodd yr Urdd naw cynnig am safloedd i gynnal yr eisteddfod, ond penderfynwyd dychwelyd i’r un safle ag Eisteddfod 1990.
“Rydym fel mudiad yn falch iawn fod cymaint o ardaloedd wedi dangos diddordeb mewn gwahodd maes yr Eisteddfod i’w plith a bod cynifer o safleoedd o safon ar gael,” meddai Aled Siôn, cyfarwyddwr yr ŵyl.
“Ond yn dilyn ystyriaeth lawn i’r holl elfennau, mae’r Pwyllgor Maes a’r Pwyllgor Gwaith o’r farn mai Glynllifon yw’r dewis gorau y tro hwn.
“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda swyddogion Coleg Meirion Dwyfor-Glynllifon a Choleg Llandrillo i sicrhau y bydd yr ŵyl yn 2012 yn un llwyddiannus a hwyliog i bawb sy’n ymweld â hi.”
Bydd yr Eisteddfod eleni yn cael ei gynnal ar safle Felindre ger Abertawe
rhwng 30 Mai a 4 Mehefin.